Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coetiroedd i Gymru – strategaeth coetiroedd Cymru

Betws y Coed o Glogwyn Cyrrau.Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang, cyhoeddwyd Coetiroedd i Gymru, sef strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer coetiroedd a choed ym mis Mawrth 2009.

Mae’r strategaeth a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2001 yn gosod cynllun 50 mlynedd ar gyfer coetiroedd a choed a sut y gall pobl Cymru fanteisio arnynt. Mae’r strategaeth yn ystyried eu swyddogaeth o ran cyflawni buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a hefyd y cyfraniad y gallant ei wneud at fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Ystyrir yr holl goed yng Nghymru yn y strategaeth, nid y rhai yng nghefn gwlad yn unig ond y rhai mewn ardaloedd trefol hefyd.

Mae’r strategaeth wedi’i fframio ar goetiroedd a choed Cymru ac yn sail i gyflawni ar draws pedair thema strategol, sef:

  • Ymateb i newid yn yr hinsawdd – ymdopi â newid yn yr hinsawdd a helpu i leihau ein hôl-troed carbon.
  • Coetiroedd i bobl – gwasanaethu anghenion lleol o ran iechyd, addysg a swyddi
  • Sector coedwig cystadleuol ac integredig – diwydiannau arloesol, hyfedr yn cyflenwi cynhyrchion adnewyddadwy o Gymru
  • Ansawdd amgylcheddol – yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at fioamrywiaeth, tirweddau a threftadaeth, a lleihau pwysau amgylcheddol eraill.

O’r dudalen hon, gallwch lawrlwytho:


Os ydych am fwy o wybodaeth am Coetiroedd i Gymru cysylltwch â: fcwenquiries@forestry.gsi.gov.uk

Gallwch ffonio Comisiwn Coedwigaeth Cymru am fwy o wybodaeth hefyd ar 0845 6040845.